'Diffyg ymchwil' i gyfergydion mewn rygbi merched

Mae corff llywodraethu rygbi'r undeb wedi cyfaddef fod yna fwlch yn yr ymchwil i anafiadau chwaraewyr benywaidd o'i gymharu â chwaraewyr gwrywaidd.

Dywed World Rugby eu bod yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y byd i gasglu mwy o ddata ar gêm y menywod.

Yn ôl arbenigwyr a chwaraewyr mae angen mwy o ymchwil i anafiadau merched i weld a oes angen eu trin a'u hatal mewn ffordd wahanol.

Daw hynny wrth i ymchwil "syfrdanol" yng Nghymru awgrymu y gallai merched sy'n chwarae'r gamp fod yn fwy tebygol na dynion o ddioddef anafiadau pen fel cyfergydion.

Mae sawl sefydliad yn ymchwilio i effaith cyfergydion ac anafiadau eraill ar chwaraewyr rygbi benywaidd.

Yn eu plith mae Prifysgol Bangor, ac un o'r ymchwilwyr yno yw Dr Seren Evans.