Cymru angen 'atgoffa ein hunain ein bod ni'n dîm da'

Mae tîm pêl-droed merched Cymru angen "ceisio atgoffa ein hunain ein bod ni'n dîm da" cyn gemau allweddol Cynghrair y Cenhedloedd, medd y chwaraewr canol cae Carrie Jones.

Mae Cymru ar waelod Grŵp A3 ar hyn o bryd, ar ôl colli eu pedair gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.

Bydd Cymru'n herio Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd ddydd Gwener, ac yna'r Almaen yn Abertawe ddydd Mawrth.

Mae angen i Gymru drechu Gwlad yr Iâ er mwyn cael unrhyw obaith o aros yn Adran A.