Brett Johns: Dychwelyd i'r cylch wedi cyfnod 'heriol iawn'

Fe fydd yr ymladdwr MMA pwysau bantam, Brett Johns, yn ymladd am y tro cyntaf nos Wener wedi cyfnod hynod o heriol - yn broffesiynol ac yn bersonol.

Dywed y Cymro ei fod yn edrych ymlaen yn ofnadwy i ddychwelyd i ymladd wedi anafiadau a cholli babi yn ystod y flwyddyn.

Roedd Johns, pencampwr pwysau bantam gyda Cage Warriors a Titan FC, wedi gorfod tynnu'n ôl o ornest Bellator ym mis Mai.

Yr un diwrnod, cafodd wybod bod ei wraig wedi colli babi yn y groth.

Dywedodd bod delio â hynny wedi bod yn "anodd ofnadwy", ond ei fod bellach yn "hapus i fod nôl" yn y cylch.

Ei wrthwynebydd yn PFL Dulyn fydd David Tonatiuh Crol, 15 mis ers ei ornest ddiwethaf.