Galw am beidio ariannu myfyrwyr tu allan i Gymru
Mae 'na bwysau ar Lywodraeth Cymru i beidio rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr astudio tu allan i Gymru.
Yn ôl mudiad Dyfodol i'r Iaith, "mae 'na rywbeth o'i le os ydyn ni'n allforio pobl ifanc ar gyfer addysg uwch".
Awgrym ymchwil diweddar ar ran Comisiynydd y Gymraeg oedd bod nifer y bobl ifanc sy'n aros yng Nghymru i astudio yn dal i ostwng.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phrifysgolion Cymru i gynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac i hyrwyddo darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg".
Ruth Roberts o Newyddion S4C fu'n trafod y mater â phrif weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts, a dwy Gymraes sy'n astudio yn Lerpwl - Heledd Griffiths ac Elen Williams.