'Wrth ein boddau bod cais chwarel wedi ei wrthod'

Mae cais dadleuol i ehangu chwarel galchfaen ar gyrion Dinbych, a chael hawl i barhau i gloddio yno am chwarter canrif arall, wedi cael ei wrthod.

Roedd cwmni Breedon Southern Ltd yn gobeithio ymestyn ffin y chwarel dros ddau gae cyfagos, gan ailgyfeirio llwybr cyhoeddus sy'n mynd trwy goetir.

Roedd caniatâd cynllunio i fod i ddod i ben, a'r tir i gael ei adfer i'w gynefin naturiol erbyn 2028.

Er i'r cwmni bwysleisio manteision economaidd posib, fe benderfynodd aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ddinbych i wrthod y cynlluniau.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw'r cais i mewn a mater iddyn nhw nawr yw penderfynu a gaiff y cyngor sir gyhoeddi'r gwrthodiad, er mae'n bosib i'r cwmni apelio.

Fe dderbyniodd y cyngor dros 250 o lythyrau o wrthwynebiad, gyda llawer yn ofni y byddai ymestyn y chwarel yn cael effaith niweidiol ar amgylchedd yr ardal, ac yn amharu ar drigolion cyfagos.

Roedd aelodau o'r grŵp gweithredu lleol Save our Green Spaces tu allan i bencadlys y cyngor ar gyfer y drafodaeth.

Fel yr eglurodd un o'r aelodau - Mair Jones, sy'n byw ger y chwarel - mae'r ymgyrchwyr yn falch iawn o benderfyniad y cynghorwyr.