'Dicter' ym Mrynsiencyn dros gynllun llinellau melyn

Mae ffrae wedi codi mewn pentref ar Ynys Môn yn sgil cynllun i rwystro ceir rhag parcio ar hyd y brif stryd.

Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi bwriad i osod llinellau melyn dwbl ar ffordd yr A4080, sy'n rhedeg drwy bentref Brynsiencyn.

Yn ôl yr awdurdod mae'r ffaith fod ceir yn parcio ar y ffordd yn cael effaith ar ddiogelwch a'r llif traffig, gan adael ond un llwybr o draffig yn aml.

Ond mae pryderon ar yr effaith ar bobl leol, gyda galwadau i greu mwy o lefydd parcio penodol er mwyn galluogi'r cynllun i fynd yn ei flaen.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn mai dyddiau cynnar yw hi yn y broses ar hyn o bryd, a bydd cyfle i drigolion gynnig sylwadau cyn cyflwyno unrhyw orchymyn traffig.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Dyfed Wyn Roberts, sy'n byw ar y stryd fawr, fod "dicter" yn y pentref oherwydd y diffyg ymgynghori.