Beth oedd hanes streic Friction Dynamics?
Ar 30 Ebrill 2001 aeth 86 o weithwyr ffatri rhannau ceir Friction Dynamics allan ar streic dros amodau gwaith ac aros allan am bron i dair blynedd.
Fe aethon nhw i dribiwnlys cyflogaeth am ddiswyddo annheg yn y pen draw ac ennill yn erbyn y perchennog, Craig Smith.
Ond gyda Smith wedi dirwyn y cwmni i ben a diflannu o Gaernarfon, chawson nhw erioed iawndal ganddo na'u swyddi yn ôl.
Ar y pryd roedd yr anghydfod yn cael ei alw yn un hanesyddol oedd yn herio un o bwyntiau'r gyfraith am streicio.
Cafodd y fideo yma ei gyhoeddi yn wreiddiol yn 2021
Darllenwch fwy am hanes y streic: