Meddygon preifat: Dyfodol gofal iechyd yng Nghymru?
Fe all gofal iechyd preifat "ysgafnhau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol" yn ôl un meddyg sydd newydd adael y GIG wedi bron i 20 mlynedd fel meddyg teulu.
Dyw gofal iechyd preifat ddim yn rhywbeth newydd - mae nifer o bobl yn troi at y sector breifat am lawdriniaethau a gofal deintyddol bob blwyddyn.
Ond mae meddygfa breifat yn sicr yn rhywbeth anghyffredin yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Beth yw barn trigolion Castellnewydd Emlyn am y feddygfa breifat newydd yn yr ardal?