'Rhaid gwneud rhywbeth' yn ôl meddygon ar streic
Dydy meddygon "ddim eisiau" cynnal streiciau, ond "mae'n rhaid i ni 'neud rhywbeth", meddai un sydd ar linell biced fore Llun.
Dywedodd Dr Deiniol Jones, aelod o bwyllgor meddygon iau y BMA, bod angen gwella cyflogau er mwyn atal rhagor o feddygon rhag gadael y proffesiwn.
"Yn anffodus mae meddygon yn gadael y wlad, fi'n nabod meddygon sydd wedi gadael meddygaeth.
"Mae'r tâl meddygon wedi gostwng 29% ers 2008, ni just eisiau tâl teg," meddai ger Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Wrth siarad am yr heriau sy'n wynebu'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, ychwanegodd ei fod yn "deall" ei bod hi'n wynebu "penderfyniadau anodd".
"Ond mae ganddyn nhw ddewis, mae ganddyn nhw opsiynau - ni ddim yn gallu parhau fel 'ma," meddai.