Lowri Thomas: 'Meddygon yn streicio er mwyn y cleifion'

Streicio er mwyn sichrau adferiad tâl ydw i, medd un o'r meddygon iau a oedd ar y linell biced y tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor fore Llun.

Dywed y BMA yng Nghymru bod eu haelodau wedi cael eu gorfodi i weithredu'n ddiwydiannol oherwydd bod eu cyflogau bron i draean yn llai erbyn hyn, o'i gymharu â 15 mlynedd yn ôl.

Yn y pen draw ry'n ni'n streicio "er budd y cleifion" ac er mwyn sicrhau bod meddygon yn aros yng Nghymru ac yn y DU, medd Dr Lowri Thomas wrth siarad â'n gohebydd Sion Tootill.