S4C wedi cael y flwyddyn 'anoddaf yn hanes y sianel'

Mae Cadeirydd S4C wedi anfon llythyr at Lywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw beidio ei ystyried ar gyfer ail dymor yn y swydd.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers i'r ymchwiliad i'r honiadau ddechrau ym mis Mai, mae Rhodri Williams yn wfftio awgrymiadau y dylai ymddiswyddo.

Dywedodd mai'r "flwyddyn ddiwethaf oedd yr anoddaf yn holl hanes y sianel".

"Yn amlwg mae 'na ansefydlogi mawr wedi digwydd yn ystod y misoedd diwetha' ac eto, ddim o'n herwydd i, ddim oherwydd y bwrdd."

Ychwanegodd Mr Williams: "Dwi ddim yn disgwyl byddai yn y rôl ar ôl diwedd mis Mawrth. A ma' hynny'n iawn.

"Mater i'r Ysgrifennydd Gwladol yw gwneud apwyntiadau o'r math yma ac os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn dod i'r casgliad hynny, ma' hynny yn iawn."

Ewch yma i ddarllen y stori'n llawn.