Tata: 'Lle mae'r bobl hyn yn mynd i weithio?'
Ers misoedd mae gweithwyr Tata Steel - a phawb yn ardal Port Talbot yn gyffredinol - ar bigau'r drain eisiau gwybod beth yw tynged y gweithfeydd yn y dref.
Mae newidiadau mawr ar droed wrth symud o ffwrneisi chwyth traddodiadol i ffwrnais arch drydanol er mwyn trin dur mewn ffordd sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd - does unman trwy'r DU yn gyfrifol am fwy o allyriadau na gwaith dur Port Talbot.
Gyda'r disgwyl y bydd yna gyhoeddiad swyddogol gan y cwmni ddydd Gwener, mae'n ymddangos mai ofer fu ymdrechion yr undebau i berswadio'r cwmni i ddilyn trywydd a fyddai'n helpu cyrraedd y nod amgylcheddol heb beryglu gymaint o swyddi.
Y trydanwr Shaun Spencer sy'n rhoi blas o deimladau gweithwyr y safle wrth aros am gyhoeddiad mor arwyddocaol am y dyfodol.