'Rhaid i'r broses ffafrio ymgeisydd fod yn deg a hafal'

Mae un o'r ddau ymgeisydd i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru wedi ymateb yn chwyrn i'r ffordd y gwnaeth undeb ddewis yr ymgeisydd maen nhw'n ei ffafrio i gael y swydd.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth undeb Unite wahodd Vaughan Gething a Jeremy Miles i hysting er mwyn i'r ddau annerch aelodau'r undeb.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Unite - sy'n dweud mai nhw yw'r undeb fwyaf yng Nghymru - ddatgan mai Mr Gething oedd yr ymgeisydd a fyddai'n cael eu cefnogaeth.

Ond mae wedi dod i'r amlwg fod Unite wedi penderfynu nad oedd Jeremy Miles yn gymwys i gael ei ystyried fel yr ymgeisydd a oedd yn cael ei ffafrio gan yr undeb.

Dywedodd Mr Miles wrth BBC Cymru fod yn rhaid i brosesau o'r fath fod yn "deg a hafal" ar y ddau ymgeisydd, ac na ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn.

Mae Unite wedi amddiffyn eu penderfyniad, tra bo ymgyrch Mr Gething wedi croesawu'r enwebiad.