Bryn Terfel: 'Pryd ddaw fy opera olaf i?'

Dywed Syr Bryn Terfel ei fod yn rhagweld y bydd ei yrfa fel canwr opera yn dod i ben yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf.

Dros y penwythnos mae'r canwr o Bant-glas wedi rhyddhau albwm o ganeuon sy'n ymwneud â'r môr, ac ymhlith y cerddorion sydd wedi ymuno ag ef mae Sting, Fisherman's Friends a Calan.

Wrth siarad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru am ddiwedd gyrfa operatig ei ffrind Angelika Kirchschlager, dywedodd bod ei chyngerdd olaf "wedi 'neud i fi feddwl pryd ddaw fy opera olaf i".

"Allai'm gweld fi ar y llwyfan operatig am yn hir iawn ac mae 'na resymau am hynna... mae gen i ddiddordebau eraill ac mae'r maes opera yn cymryd gymaint o amser," meddai.

"Weithiau mae'n saith wythnos o ymarfer, weithiau mae'n saith wythnos o berfformio - mae'n cymryd brathiad mawr o amser rhywun.

"Felly falle 'na i roi dwy neu dair blynedd i fi fy hun a meddwl am bethau eraill wedyn.

"Os 'na i agor y drws 'na sy'n mynd mewn i'r tŷ opera a theimlo 'na dwi'm yn mwynhau hwn ddim mwy' - yna fydd y 'sgidia wedyn ar y wal."