Diciâu: Dyw'r system bresennol 'ddim yn gweithio'

Mae ffermwr ifanc sydd wedi bod yn ymchwilio i effaith y diciâu ar iechyd meddwl ffermwyr yn dweud fod "polisïau presennol y llywodraeth ddim yn gweithio, a sai'n credu bod y gefnogaeth yna chwaith".

Mae fferm deuluol Rebecca John yn ardal Hwlffordd wedi bod o dan gyfyngiadau caeth ers 2018 oherwydd achosion o TB mewn gwartheg.

Yn ôl Ms John, dyw'r sefyllfa ar ei fferm hi heb newid ers i'r cyfyngiadau gael eu gosod chwe blynedd yn ôl.

"Ni 'di bod dan gyfyngiadau ers i fi ddechre yn y brifysgol, a so pethe wedi gwella dim ers hynny," meddai.

"Ni di cael un neu ddau o brofion clir yn y cyfnod yma, ond ni ddim wedi symud mas o'r cyfyngiadau."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n ymwybodol o effaith ofidus TB ar iechyd a lles ffermwyr, ac yn "gwbl benderfynol" o ddileu'r clefyd yng Nghymru.

Mae modd darllen y stori yn llawn yma.