Diffyg llefydd mewn ysgolion Cymraeg 'mor drist'
Mae rhieni yn Abertawe'n dweud eu bod poeni na fydd lle i'w plant yn yr ysgol Gymraeg leol.
Bydd Bethan Packer, 29 o Gasllwchwr, yn cofrestru ei merch yn nosbarth meithrin yr ysgol agosaf yng Ngorseinon yn ystod yr wythnosau nesaf, er nad yw hi'n dri mis oed eto.
"Mae'r ysgol yn orlawn - ni 'di clywed straeon yn barod am un fam oedd â phlentyn dwy oed wnaeth ddim cael lle yn yr ysgol leol," dywedodd Bethan.
Dywedodd ei chwaer, Carys Williams, sydd hefyd â phlentyn llai na thri mis oed, ei bod eisoes yn ystyried ysgolion sy'n bellach o'r cartref.
Dywedodd Cyngor Sir Abertawe eu bod am weld ehangu yn niferoedd y disgyblion sy'n cael addysg Gymraeg yn y sir ond bod angen buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion ar hyd Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru "agor ysgolion Cymraeg newydd a chynyddu capasiti lle mae galw uchel am addysg Gymraeg" yw eu nod yn y 10 mlynedd nesaf.