Bod yr unig fenyw ar bwyllgor Uefa yn brofiad 'unig'
Mae penderfyniad i sicrhau bod o leiaf dwy fenyw ar uwch bwyllgor corff pêl-droed Uefa wedi ei groesawu gan y Gymraes a'r unig fenyw ar y pwyllgor.
Ond mae angen rhagor o newid yn y dyfodol, yn ôl yr Athro Laura McAllister, cyn-gapten Cymru, sy'n dweud ei fod yn "hurt" mai hi yw'r unig fenyw ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Uefa - y corff sy'n rheoli pêl-droed Ewropeaidd - gytuno i newid y rheol er mwyn sicrhau bod dwy fenyw ar y pwyllgor mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd McAllister wrth Dros Frecwast nad yw'r newid yn "anhygoel", ond ei fod yn "gam bach i'r ffordd i wneud rhyw fath o gynnydd".
Darllenwch fwy am sylwadau Laura McAllister yma.