Ffermwyr yn cynnal protest ar ffordd brysuraf Sir Gâr

Mae ffermwyr wedi cynnal protest ar ffordd brysuraf Sir Gâr er mwyn mynegi anfodlonrwydd gyda'r hyn maen nhw'n eu galw'n sawl "argyfwng" o fewn y sector amaeth.

Mae dros 100 o gerbydau a thractorau wedi gyrru'n araf, ar gyflymder o ryw saith cilomedr yr awr, ar yr A48 gan deithio o gylchdro Pensarn, Caerfyrddin i gyfeiriad Cross Hands.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "gweithio mewn partneriaeth gyda'r sector ffermio yn allweddol", ac na fyddai unrhyw benderfyniad terfynol cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fore Gwener: "Rydym yn ymwybodol o amhariad posib i draffig ar yr A48 rhwng Pensarn a Phont Abraham o hanner dydd ymlaen heddiw.

"Os rydych yn bwriadu teithio rhwng y ddau leoliad ar yr adeg yma, ystyriwch newid eich taith neu amseriad eich taith i osgoi oedi."