Y Coridor Ansicrwydd: Cardiau glas a chell cosb
Mae cardiau glas a chell cosb ymysg y pynciau trafod ar bodlediad Y Coridor Ansicrwydd yr wythnos hon.
Mae awdurdodau'r byd pêl-droed yn ystyried treialu gyrru chwaraewyr i gell cosb am 10 munud mewn gemau, fel sy'n digwydd yn y byd rygbi.
Mae hyn eisoes wedi bod yn digwydd mewn rhai cynghreiriau yng Nghymru.
Mae'n deg dweud nad yw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen o blaid y syniad!