Elfyn Evans yn falch o 'ddechrau cadarn' i'r tymor
Mae Elfyn Evans yn dweud ei fod yn hapus efo'r dechrau y mae wedi'i gael i'r tymor newydd, wrth iddo geisio ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd am y tro cyntaf yn ei yrfa.
Fe orffennodd y Cymro yn yr ail safle yn Rali Sweden dros y penwythnos, a hynny ar ôl gorffen yn drydydd yn Rali Monte Carlo.
Mae yn yr ail safle yn y tabl ar ôl dwy ras - dri phwynt tu ôl Thierry Neuville sydd ar y blaen.
Bydd yn rali nesaf yn cael ei chynnal yn Kenya rhwng 28 a 31 Mawrth.
Owain Llŷr o adran chwaraeon BBC Cymru fu'n holi Evans am ei ddechrau i'r tymor.