Ymchwiliad Covid: 'Na'th o farw ar ben ei hun'
Ar ddiwrnod cyntaf ymchwiliad Covid y DU yng Nghymru mae nifer wedi bod yn rhannu tystiolaeth ddirdynnol.
Dywedodd un ei fod wedi treulio pum mis yn yr ysbyty, a bu Gwenno Eyton Hodson o Landegfan ym Môn yn egluro sut y gwnaeth gwaeledd a marwolaeth ei chwaer 42 oed yng nghyfnod y pandemig gael effaith fawr arni hi a gweddill y teulu.
Fe glywyd hefyd dystiolaeth am un annwyl yn "gorfod marw ar ei ben ei hun".
Dyma bwt o'r fideo pwerus a gafodd ei ddangos ar ddechrau'r gwrandawiad fore Mawrth.