Ffermwyr 'yma i drosglwyddo neges' ym Mae Caerdydd

Mae miloedd wedi dod i Fae Caerdydd i wrthwynebu newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth, sy'n "anymarferol" ym marn yr undebau.

Mae'r cyflwynydd a'r amaethwr Alun Elidyr yn dweud ei fod yma "i fod yn heddychlon" ac i "drosglwyddo neges".

Dywedodd: "'Dan ni'n hollol ymwybodol 'dan ni ddim isho ymyrryd ym mywydau ein cwsmeriaid ni."

Ychwanegodd: "Does dim arian i wneud allan o warchod yr amgylchedd i ryw raddau, ac felly mae angen ryw fath o gefnogaeth ariannol i wneud o."

Dywed llywodraeth Lafur Cymru eu bod yn gwrando ar bryderon y sector.