Anthem y ffermwyr: 'O bydded i gefn gwlad barhau'

Fe ddaeth miloedd o bobl at ei gilydd i wrthwynebu newidiadau sylweddol i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o flaen y Senedd ddydd Mercher - cynllun sy'n "anymarferol" ym marn yr undebau a ffermwyr.

Fe anerchodd nifer o bobl y dorf, gan gynnwys arweinwyr amaeth, y ffermwr Gareth Wyn Jones a'r cyn-ddyfarnwr, Nigel Owens.

Ar ddiwedd yr areithiau fe ganodd y dorf yr anthem genedlaethol, ond gydag un addasiad ar y diwedd: "O bydded i gefn gwlad barhau."

Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rydym ond yn gallu llwyddo mewn partneriaeth, mae wir angen i ni gydweithio, a dyna rydym yn gwneud."