Pam fu miloedd o ffermwyr yn protestio ger y Senedd?
Mae arweinwyr amaeth yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar "ofid" cymunedau gwledig, wedi i brotest fawr gael ei chynnal y tu allan i'r Senedd.
Ddydd Mercher fe wnaeth miloedd o bobl deithio i Fae Caerdydd i wrthwynebu newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth, sy'n "anymarferol" ym marn yr undebau.
Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rydym ond yn gallu llwyddo mewn partneriaeth, mae wir angen i ni gydweithio, a dyna rydym yn gwneud."
Bu rhai o'r rheiny fu'n mynychu'r brotest yn egluro i Cymru Fyw eu rhesymau nhw dros gymryd rhan.