'Dim dewis arall ond cau Siop y Pethe'
Mae perchennog Siop y Pethe - y siop Gymraeg fodern gyntaf - wedi cyhoeddi y bydd yn cau'r siop eiconig yn Aberystwyth.
Agorodd drysau'r siop ym 1967 - y cyntaf i werthu llyfrau, recordiau a phosteri poblogaidd Cymraeg.
Yn 2015 fe drosglwyddodd sylfaenwyr y siop - Megan a'r diweddar Gwilym Tudur - Siop y Pethe i ddwylo y perchnogion newydd.
"Fe nath Gwilym a Megan flynyddoedd yn ôl, dod allan a chreu rhywbeth arbennig yma yng nghanol y dre," medd y perchennog Aled Rees.
"Ond mae'n rhaid symud 'mla'n gyda'r amser, a gwneud y penderfyniadau anodd 'ma."
Aeth ymlaen i ddweud: "Ma popeth wedi codi, ac ma' niferoedd y bobol sy'n dod mewn wedi mynd lawr, ac os ti'n edrych arno fe fel dyn busnes dyw cadw'r drws ar agor ddim yn gallu digwydd."