Sioned Harries: 'Yr amser iawn i ymddeol'
Mae seren rygbi Cymru, Sioned Harries wedi bod yn edrych yn ôl ar ei gyrfa ar ôl ymddeol o'r gamp yn 34 oed.
Enillodd y chwaraewr rheng-ôl 78 o gapiau yn ystod 14 blynedd ar y lefel uchaf, gan gynrychioli Cymru mewn pedair cystadleuaeth Cwpan y Byd.
Roedd Harries yn chwarae i Gymru ar y cyd â gweithio llawn amser fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Bro Dur, hyd yn oed ar ôl i gêm y menywod droi'n broffesiynol yn 2022.