Menyw ben i waered ar ôl mynd yn sownd yn Nhon-teg

Dywed Anne Hughes ei bod wedi cael dipyn o fraw wedi i'w chot fynd yn sownd mewn llenni ffenest (shutters) siop leol yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Ms Hughes yn gweithio fel glanhawraig yn un o siopau lleol Ton-teg.

Wedi i'w chot fynd yn sownd yn llenni'r siop roedd hi ben i waered sawl troedfedd uwchben y palmant.

Mae'r siop wedi rhannu clip ohoni ar TikTok, ac mae 1.8 miliwn o bobl wedi gwylio'r fideo erbyn hyn.

"Na'i ddim clywed diwedd hyn," meddai.

Dywedodd Ms Hughes, 72, ei bod wedi ymddeol yn swyddogol saith mlynedd yn ôl a'i bod wedi gweithio yn y siop ers hynny.

"Roeddwn i'n pwyso ar y shutters pan wnaeth perchennog y siop eu hagor o'r tu mewn," meddai.

"Nid oedd yn gallu 'nghlywed i'n gweiddi pan 'nes i sylwi fy mod i wedi cael fy nal," dywedodd wrth y BBC.

Dywedodd ei bod wedi cael ofn mawr ond na chafodd ei hanafu.

"Fydda i byth yn pwyso yn erbyn shutters eto. Byth. Dwi wedi dysgu fy ngwers!" ychwanegodd.