Myfyrwyr yn nodi dros 1,000 achos o gamymddwyn rhywiol

Cafodd dros 1,000 o achosion o gamymddwyn rhywiol eu cofnodi gan fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru dros y chwe blynedd diwethaf.

Yn ôl arbenigwyr, mae'r ffigyrau yn debygol o fod yn arwydd o broblem ehangach.

Dywedodd undeb yr UCU fod camymddwyn rhywiol mewn prifysgolion yn "endemig".

Mae BBC Cymru wedi siarad gyda dioddefwyr trais sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i orfodi sefydliadau i gasglu a chyhoeddi niferoedd yr achosion ymhlith eu myfyrwyr.

Y manylion gan Megan Davies.