'Diolchgar tu hwnt' am gefnogaeth i'w babi

Does dim problemau difrifol gan Finley, ond fel sy'n arferol i fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar, roedd o'n cael trafferth bwydo gan ei fod o mor fach.

Mae o bellach yn naw mis oed ac yn ymddwyn fel "y babi mwyaf hapus erioed", meddai ei fam.

Mae Anwen yn "ddiolchgar tu hwnt" i'r therapyddion iaith a lleferydd a wnaeth helpu hi drwy be oedd yn gyfnod "andros o anodd" i ddechrau.

Yn siarad ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu, dywedodd Anwen: "Oedd 'na andros o straen emosiynol arna i a'r holl deulu rili ond roedd y nyrsys o gwmpas yn rhoi'r gofal mwyaf i Finley ac wedyn oedd na phobl fel y therapyddion iaith a lleferydd yn dod i mewn hefyd.

"Dwi'n athrawes felly dwi wedi gweithio hefo therapyddion iaith a lleferydd ond dwi erioed 'di ystyried eu rôl nhw hefo babis a'r pwysigrwydd o weithio hefo babis cynnar yn enwedig."