Mark Drakeford 'wedi ceisio gwneud penderfyniadau radical'
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford, yn ei ddyddiau olaf yn y swydd, wedi dweud ei fod yn gobeithio bydd ei gyfnod wrth y llyw yn cael ei gofio fel un "radical".
Dywedodd ei fod wedi ceisio gwneud "penderfyniadau sy'n addas i Gymru yn y dyfodol, nid just yn edrych ar yr effaith mae'r penderfyniadau yn cael ar bobl ar hyn o bryd, ond y bobl sy'n mynd i ddod ar ôl ni hefyd".
Roedd gwrthod ffordd liniaru ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn un o'r penderfyniadau hynny, meddai, gan ddweud fod "lot o bobl bwerus" wedi disgwyl y byddai'n cael sêl bendith ar ddechrau ei gyfnod fel prif weinidog.
Yn fwy diweddar, dywedodd fod syniadau radical ei lywodraeth wedi cynnwys cynigion i newid trefn y flwyddyn ysgol, a diwygio treth y cyngor.
Dydd Sadwrn fe fydd naill ai Jeremy Miles neu Vaughan Gething yn cael eu cyhoeddi fel olynydd i Mr Drakeford.