Pen-blwydd Hapus Dewi Llwyd
Mae un o gyflwynwyr amlyca'r byd darlledu Cymraeg, Dewi Llwyd yn cael ei ben-blwydd yn 70 oed.
Mae wedi holi sawl person adnabyddus am eu penblwyddi nhw eu hunain ar ei raglen 'Bore Sul' rhwng 2008 tan 2021, ond Dewi fydd yn cael sylw Cymru Fyw y tro hwn.
Mewn gyrfa hir, mae Dewi Llwyd wedi bod yn bresennol mewn sawl digwyddiad hanesyddol bwysig dros y blynyddoedd.
I ddathlu ei ben-blwydd, mae Cymru Fyw wedi rhoi casgliad o glipiau o Dewi yn gohebu ar rai o straeon mawr y byd a Chymru dros y degawdau at ei gilydd.