Y Cofis yn hyderus cyn y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl

Bydd Cymru'n wynebu Gwlad Pwyl mewn gêm enfawr yng Nghaerdydd nos Fawrth, wrth i'r ddwy wlad fynd benben am le yn Euro 2024.

Cymysg oedd ymgyrchoedd y ddau dîm yn eu grwpiau rhagbrofol, ond mae'n edrych fel pe bai'r ddau yn nesáu at eu gorau cyn ffeinal y gemau ail gyfle.

Llwyddodd Cymru i drechu'r Ffindir o 4-1 yn y rownd gynderfynol nos Iau, tra bo Gwlad Pwyl wedi rhoi cweir o 5-1 i Estonia.

Ydy cefnogwyr yn ffyddiog y bydd Cymru'n llwyddo i drechu'r gwrthwynebwyr nos Fawrth felly? Aeth ein gohebydd i Gaernarfon i holi'r farn yno.