Noel Thomas: Dylai'r heddlu ymchwilio i Swyddfa'r Post

Mae cyn is-bostfeistri a gwleidyddion wedi galw ar Swyddfa'r Post i wynebu ymchwiliad gan yr heddlu ar ôl i'r BBC ddatgelu bod y cwmni'n gwybod am ddiffygion yn ei system gyfrifiadurol Horizon.

Mae dogfen yn dangos bod penaethiaid a chyfreithwyr yn gwybod am broblemau yn 2017, ond yn dal i ddadlau mai is-bostfeistri oedd ar fai am golledion ariannol.

Cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn ar gam oherwydd colledion honedig a gafodd eu hamlygu gan system gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon - oedd yn cael ei ddefnyddio mewn canghennau ar draws y DU.

Mae'r ddogfen ddiweddaraf sydd wedi dod i'r amlwg yn dangos bod Swyddfa'r Post wedi ceisio ymladd yn erbyn honiadau'r is-bostfeistri er bod swyddogion yn gwybod y gallai'r colledion fod oherwydd gwallau yn system Horizon.

Mae 'na alwadau o San Steffan a gan y rhai a gafodd eu herlyn i'r heddlu edrych ar y wybodaeth newydd.

Yn eu plith mae Noel Thomas o'r Gaerwen ar Ynys Môn, a gafodd ei garcharu ar gam fel rhan o'r sgandal.

Mae Swyddfa'r Post wedi dweud y byddai'n "amhriodol" gwneud sylw yn dilyn y darganfyddiadau diweddar yma.