'Does dim arian' i gefnogi athletwyr - Aled Sion Davies

Mae'r athletwr Aled Sion Davies wedi son am yr heriau o fod yn broffesiynol mewn cyfnod lle "does dim lot o arian mas yna".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Cymro y byddai "mas yn edrych am swydd arall" heb gefnogaeth y Loteri, wrth iddo baratoi ar gyfer y Gemau Paralympaidd eleni.

Soniodd hefyd am ei siom o glywed bod posibilrwydd na fydd Gemau'r Gymanwlad yn digwydd yn 2026, yn sgil pryderon am gostau'r digwyddiad.

Dywedodd bod y gemau'n gwneud budd "enfawr" i chwaraeon anabledd, a'i fod yn gobeithio y bydd datrysiad.