Angharad James yn gyffrous am y dyfodol gyda rheolwr newydd

Mae chwaraewr canol cae Cymru Angharad James yn gobeithio y gall y rheolwr newydd Rhian Wilkinson ysbrydoli Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2025.

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Croatia ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Wener - gêm gyntaf Wilkinson wrth y llyw.

Yn ôl James, mae Wilkinson yn awyddus i ddatblygu gêm ymosodol Cymru ar ôl cymryd yr awenau yn dilyn ymadawiad Gemma Grainger fis Ionawr.