Gobaith gweld diffyg ar yr haul yng Nghymru nos Lun
Mae disgwyl gweld diffyg ar yr haul, neu eclips, ddydd Llun, sef cyfnod pan fo'r dydd yn troi'n nos am rai munudau yn unig.
Bydd pobl yng Ngogledd America yn medru gweld eclips am bron i bedair munud, a hynny pan fydd hi'n amser cinio gyda nhw, ac yn gynnar yn y nos yng Nghymru.
Dim ond tua unwaith pob canrif y mae diffyg ar yr haul yn digwydd.
Dywedodd Liam Edwards sy'n fyfyriwr doethuriaeth mewn astroffiseg fod "y lleuad yn pasio o flaen disg yr haul ac yn blocio fo allan yn berffaith a ry' ni'n gweld eclips llwyr".
Bydd yr eclips yn tywyllu Mecsico, rhan o'r Unol Daleithiau a Dwyrain Canada.
Mae gobaith y bydd posib gweld golygfeydd o ddiffyg ar yr haul yng Nghymru yn hwyrach ddydd Llun, a hynny ar hyd arfordir gorllewinol y wlad.