Angharad James: 'Bydd Sophie Ingle dal yn gapten i ni'
Mae chwaraewr canol cae Cymru Angharad James wedi canmol Sophie Ingle yn dilyn ei phenderfyniad i gamu lawr fel capten tîm pêl-droed merched Cymru.
Jess Fishlock fydd y capten ar achlysur ei 150fed cap ddydd Mawrth yn Kosovo, yn ail gêm Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2025.
Ond mae'r rheolwr Rhian Wilkinson yn dweud nad yw hi wedi penderfynu eto pwy fydd yn olynu Ingle fel capten parhaol y garfan.
Bydd sylwebaeth lawn o Kosovo yn erbyn Cymru ar Chwaraeon Radio Cymru o 12:45 ddydd Mawrth.