Allai rygbi menywod elwa o ddefnyddio pêl lai?
Yn ôl prif hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham gallai gêm y menywod elwa drwy ddefnyddio pêl lai.
Mae World Rugby yn ystyried cyflwyno pêl maint 4.5 i gêm y menywod, sydd tua 3% yn llai a 3-4% yn ysgafnach na phêl draddodiadol maint 5.
Mae Cymru wedi treialu'r bêl lai mewn sesiynau ymarfer, gydag adborth positif wrth y chwaraewyr.