Platfform Forbes am 'ein dangos ni i'r byd'
Mae gwyddonydd o Gymru wedi cael ei chynnwys ar restr cylchgrawn Forbes o'r bobl fwyaf dylanwadol o dan 30 oed ym maes gwyddoniaeth a busnes drwy Ewrop.
Mae Dr Sioned Fôn Jones, 29, wedi sefydlu cwmni BoobyBiome, sy'n datblygu cynnyrch sy'n efelychu'r bacteria da sydd mewn llaeth y fron er mwyn cryfhau system imiwnedd babanod.
Yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, aeth Sioned i astudio Cemeg yn Lerpwl cyn mynd i wneud gradd doethuriaeth mewn bioffiseg yn Llundain.
Dyna lle sefydlodd hi gwmni BoobyBiome gyda dau wyddonydd arall - Dr Tara O'Driscoll a Dr Lydia Mapstone.
Eu gobaith nhw ydi fod "pob babi yn cael cyfle cyfartal mewn iechyd".
Bu Sioned yn sôn mwy am ei gwaith ar Dros Frecwast fore Iau.