'Poeni lot' am doriadau Cymraeg ôl-16

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am beidio rhoi arian ychwanegol i ddau o sefydliadau mawr y Gymraeg.

Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddim yn derbyn £3.5m a oedd - yn ôl ymgynghoriad gan bwyllgor diwylliant Senedd Cymru - wedi'i glustnodi ar eu cyfer ar gyfer 2024-25.

Ond mae'r llywodraeth yn honni nad oedd ffigwr pendant wedi'i glustnodi "yn ffurfiol" ar gyfer arian ychwanegol i'r ganolfan cyn yr hyn maen nhw'n ei alw yn "ailflaenoriaethu".

Dywedodd un o ddysgwyr Cymraeg y Rhondda, Alan Gill ei bod hi'n "bwysig i gael gwersi yn y gymuned leol yma achos mae llawer o bobl ddim yn mynd mas o'r Rhondda i ddysgu Cymraeg uwch".

"Mae'n lot haws i bobl troi lan yn y gymuned".

Dywedodd Teleri Jones, perchennog yr Hen Lyfrgell ei fod yn "newyddion trist" gan ychwanegu fod "hyn a hyn o Gymraeg gyda lot o bobl yn yr ardal 'ma ond maen nhw'n awyddus iawn i gael mwy o wersi".

"Mae'n amlwg mae'r diddordeb allan yna a bod angen mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu."

Dywedodd tiwtor Cymraeg yn yr ardal, Gary Bevan, ei fod yn "poeni lot, dwi eisiau gweld pawb yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg am ddim, so dwi eisiau gweld y llywodraeth yn rhoi mwy o arian i mewn... dwi ddim eisiau gweld beth sy'n digwydd ar hyn o bryd so mae pawb yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg".