'Be sy'n mynd i ddigwydd i Dyddewi?'
Mae meddygfa yng ngogledd Sir Benfro wedi rhoi'r gorau i'w chytundeb gyda'r bwrdd iechyd.
Gyda 2,700 o gleifion wedi'u cofrestru ym Meddygfa Dewi Sant, Tyddewi, gwnaed y penderfyniad i roi'r cytundeb yn ôl gan y partner meddyg teulu.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd y gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel yr arfer am rai misoedd eto, cyn y bydd penderfyniad ar ddyfodol y feddygfa.
Wedi byw yn Nhyddewi am y rhan fwyaf o'i oes, mae John George, 88, yn poeni'n arw am ddyfodol Meddygfa Dewi Sant.
Aeth yn emosiynol yn trafod y mater gyda'n gohebydd Elen Davies, gan ddweud ei fod yn poeni am y boblogaeth hŷn yn yr ardal.