Y Coridor Ansicrwydd: VAR i Gymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bydd dyfarnwyr fideo, neu VAR, yn cael eu defnyddio yn y Cymru Premier am y tro cyntaf cyn hir.

Mae'n rhan o gyfres o newidiadau mawr sydd ar y ffordd i gynghrair y Cymru Premier, sydd hefyd yn cynnwys mwy o glybiau a mwy o gemau ar nosweithiau Gwener.

Fe gafodd y clybiau sy'n rhan o'r Cymru Premier wybod am y newidiadau gan swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn gynharach yn yr wythnos, gyda disgwyl i'r strwythur newydd gael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Daeth un o ddyfarnwyr mwyaf profiadol Cymru, Iwan Arwel, ar Y Coridor Ansicrwydd i esbonio sut fydd y "VAR lite" yma yn wahanol i'r system sy'n cael ei ddefnyddio ym mhrif adrannau Ewrop a phryd yn union fydd o'n cael ei gyflwyno ym mhrif adran Cymru.