Galw am wneud mwy ar gyfer cyflyrau fel apnoea cwsg
Mae elusen The Sleep Charity yn galw am gyflwyno strategaeth benodol fyddai'n cynnwys triniaethau ar y gwasanaeth iechyd ar gyfer cyflyrau fel apnoea cwsg ac insomnia.
Mae eu gwaith ymchwil nhw yn awgrymu fod naw o bob 10 o'r boblogaeth yn cael problemau cwsg i rai graddau.
Maen nhw hefyd yn dweud fod y mwyafrif yn dioddef yn dawel heb ofyn am help, bod un o bob 10 yn troi at alcohol i'w helpu i gysgu, a bod un o bob 20 wedi cymryd meddyginiaeth cysgu rhywun arall.
Ar Dros Frecwast fore Gwener bu Dona Haf o Langernyw - sy'n byw gyda chyflwr Obstructive Sleep Apnoea - yn rhannu ei stori hi.