'Meddygon yn meddwl mod i'n gwneud fy nghyflwr i fyny'
Mae mwy na 30 o bobl anabl wedi dweud wrth raglen BBC Wales Live eu bod yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio cael mynediad at ofal iechyd.
Mae Dylan Thomas o Chwilog wedi rhannu ei bryder ynghylch diffyg ymwybyddiaeth rhai meddygon am gyflyrau llai amlwg.
Mae'n byw gyda chyflwr Dystonia, sy'n achosi i gyhyrau'r corff symud yn afreolus, sy'n gallu bod yn boenus iawn ar adegau.
"Oedd lot o feddygon, dwi'n meddwl, erioed wedi clywed am y cyflwr," meddai.
"Felly pan o'n i'n cael y trawiadau yma neu'r cyfnodau yma o ffitiau, oeddwn i'n gweld o'n y nodiadau bod nhw'n meddwl mod i'n 'neud yr holl beth fyny.
"Oedd o'n ddigalon, o'n i'n teimlo fel hogyn bach eto."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "siomedig iawn clywed y straeon hyn".
"Mae ein Tasglu Hawliau Anabledd yn gweithio gyda phobl anabl a sefydliadau i wneud argymhellion i wella bywydau pobl anabl yng Nghymru," meddai.