Jonathan Davies: 'Fi'n teimlo y galla i dal i chwarae'

Mae Jonathan Davies yn dweud ei fod yn awyddus i barhau i chwarae yn dilyn y newyddion y bydd yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Mae'r canolwr wedi ennill 96 cap dros Gymru, gan chwarae mewn chwe gêm brawf i'r Llewod.

Mae wedi treulio 16 tymor gyda'r Scarlets dros ddau gyfnod, gan helpu'r rhanbarth i ennill y Pro12 yn 2016/17.

Er ei fod yn 36 oed bellach, mae'n dweud fod ei gorff "dal i deimlo'n eitha' da" gan ychwanegu y bydd yn gweld beth yw ei opsiynau ar gyfer y tymor nesaf.