Colli swyddi Prifysgol Aberystwyth yn 'gonsyrn' mawr
Gallai hyd at 200 o swyddi fod mewn perygl wrth i Brifysgol Aberystwyth geisio gwneud arbedion o £15m, yn ôl Aelod o'r Senedd yr ardal.
Ddydd Iau, cyhoeddodd yr is-ganghellor, yr Athro Jon Timmis, "newid sylweddol" i'r ffordd mae'r sefydliad yn gweithredu, wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion.
Dywedodd y bydd y brifysgol yn dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol er mwyn ceisio gwneud arbedion.
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd AS Ceredigion, Elin Jones, bod undeb yn amcangyfrif y bydd hyd at 200 o swyddi yn cael eu colli.
"Mae'r undeb sy'n cynrychioli gweithwyr prifysgol wedi amcan y gall fod rhwng 150 a 200 o swyddi [dan fygythiad]", meddai.
"Maen nhw fel fi yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o'r toriadau hynny yn cael eu cynnig yn wirfoddol gan weithwyr sy'n awyddus neu'n penderfynu gadael."
Ychwanegodd bod pryder y bydd cyflwyno'r arbedion yn cael "effaith sylweddol ar y dref".