'Helpu plant eraill yn enw Joseph'
Bydd sêr pêl-droed fel Owain Tudur Jones, Joe Ledley a llu o sêr YouTube a Love Island yn dod ynghyd i chwarae yn Abertawe ddydd Sadwrn.
Mae'r gêm yn codi arian i elusen Joseph's Smile, a sefydlwyd er cof am Joseph Yeandle a fu farw o fath prin o ganser yn 2021, ag yntau ond yn dair oed.
Nawr mae ei fam Katy a'i fodryb Emma wedi rhoi eu bywydau i helpu teuluoedd fel nhw.
Katy fu'n rhannu stori ei mab, a hanes trefnu'r gêm elusennol rhwng Cymru a Lloegr, gyda BBC Cymru Fyw.