Osian Roberts: Cyrraedd y nod gyda Como yn 'sbesial'
Sicrhau dyrchafiad i brif haen pryamid pêl-droed Yr Eidal oedd y nod i Osian Roberts, pan gafodd ei benodi yn rheolwr dros dro ar dîm Como 1907 ym mis Rhagfyr.
A dyna'n union sydd wedi digwydd - roedd pwynt yn ddigon yn eu gêm olaf o'r tymor i orffen yn ail yn Serie B.
O ganlyniad fe fydd Como yn chwarae yn Serie A y tymor nesaf am y tro cyntaf mewn 21 o flynyddoedd.
Mae'n benllanw misoedd rhyfeddol i gyn-is reolwr Cymru, sydd nawr yn rhagweld cyfnod cyffrous eto yn y misoedd i ddod wrth iddyn nhw wynebu clybiau mwyaf y wlad.