Pobl ifanc 'ddim yn deall peryglon vapio'
Mae menyw ifanc wedi dweud nad yw hi'n deall pam ei bod yn defnyddio vapes, ond ei bod yn "hynod normal" i bobl dan 18 wneud.
Dywedodd Seren Teleri Williams-Turner ei bod yn vapio ers blwyddyn, ac er ei bod "wedi trio" rhoi'r gorau, bod hynny'n "anodd".
Mae arolwg newydd gan elusen gwrth-ysmygu ASH Cymru'n dangos bod hanner plant ysgol uwchradd sy'n vapio yn fwy tebygol o fod yn defnyddio rhai anghyfreithlon.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn poeni am y cynnydd yn nifer y plant sy'n vapio a'u bod yn cydweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio taclo'r broblem.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Seren, sy'n fyfyrwraig yng Nghaerdydd, ei bod wedi mynd yn "syth i vapio", a'i bod hi "erioed wedi 'smygu".