Brexit ac iechyd: Pynciau llosg yr etholiad?
Ar ôl trafod i ba raddau maen nhw'n gallu ymddiried mewn gwleidyddion, mae'n panel o bobl ifanc nawr yn troi eu sylw at ddau o brif bynciau trafod yr etholiad.
Does dim modd osgoi Brexit yn yr etholiad yma - ond a gafodd celwyddau eu dweud yn ystod y refferendwm dair blynedd yn ôl? Ac ydy hynny'n ddigon o gyfiawnhad dros gael pleidlais arall ar y mater?
A beth am ddyfodol y gwasanaeth iechyd - oes perygl y gallai'r Ceidwadwyr breifateiddio'r GIG petawn nhw'n ennill yr etholiad? Neu ai codi bwganod yn unig yw'r honiadau hynny gan y gwrthbleidiau?